Grange Farm
If you peek your head around the corner, you’ll see much more than Stockland street, an old farmhouse wall in white stands proud.
Here today the farm’s once endless fields are long gone, replaced by rows of brick houses, a buzz coming from the sounds of the city, it’s now more beeps and cheers than moos and clucks!
The farm's livelihood revolved around the cycles of the seasons: lambs were born in the spring, golden wheat swayed in the summer breeze, and the cool autumn air carried the scent of ripe fruit.
Everything is a season, try not to worry.
Spring. Once upon a time, when Grangetown was but a patchwork of meadows and fields, Grange Farm stood as the centre of a thriving agricultural community. Surrounded by green pastures, the farm’s lands stretched out toward the distant horizon, where the river meandered lazily past, reflecting the changing skies of Wales.
Summer. Children would run through the fields, hearing stories of how the farm once supplied fresh produce to Cardiff’s markets, and elders would recall the days when Grange Farm's dairy was the best in the city.
Autumn. Once an outpost for monks who were rather naughty! The scent of fallen apples perhaps a little too tempting for those who were sent here for drinking and gambling their time away.
Winter. 800 years has passed and this building still stands, reminding us “city folk” of times long gone by of ‘simpler times’. This place has known many a king and stood the true test of time, everyone knew this farm, “it used to be the life and soul of the place”.
Seasons pass, but the white walls stand strong.
Fferm y Grange
Os edrychwch chi rownd y gornel, fe welwch chi lawer mwy na Stryd Stockland. Mae yno wal wen sy’n perthyn i hen ffermdy. Erbyn heddiw, mae caeau’r fferm wedi hen ddiflannu, a rhesi o dai brics wedi cymryd eu lle. A sŵn traffig y ddinas, yn hytrach na brefu gwartheg a defaid, sydd i’w glywed yma bellach.
Roedd y fferm yn dibynnu ar y tymhorau a throad y rhod am ei bywoliaeth: yn y gwanwyn byddai ŵyn yn cael eu geni; yn yr haf byddai cnwd o wenith yn symud fel tonnau yn y gwynt, ac yn yr hydref byddai arogl ffrwythau aeddfed yn llenwi’r aer.
Mae popeth yn dymor; ceisia beidio â phoeni!
Y Gwanwyn. Slawer dydd, pan oedd Grangetown ond yn glytwaith o ddolydd a chaeau, safai Fferm y Grange yng nghanol cymuned amaethyddol ffyniannus. O’i chwmpas roedd porfeydd glas, gyda thir y fferm yn ymestyn tua’r gorwel pell, lle llifai’r afon yn droellog a diog heibio, a Chymru’n deffro o’i drwmgwsg.
Yr Haf. Byddai plant yn rhedeg drwy’r caeau, yn clywed straeon am sut bu’r fferm unwaith yn cyflenwi cynnyrch ffres i farchnadoedd Caerdydd, a byddai’r hen bobl yn cofio pan mai llaethdy Fferm y Grange oedd y gorau yn y ddinas.
Yr Hydref. Dyma le i fynachod drygionus! Roedd arogl yr afalau yn ormod o demtasiwn i rai a fyddai’n dod yma i yfed a gamblo!
Y Gaeaf. Mae wyth canrif wedi pasio ac mae’r adeilad hwn yn dal i sefyll, gan ein hatgoffa ni, drigolion y ddinas, am yr oes a fu – ‘oes symlach o lawer’. Mae’r lle hwn wedi bod yn dyst i sawl brenin a brenhines yn eu tro ac wedi llwyddo i oroesi drwy’r canrifoedd. Roedd pawb yn gwybod am y fferm ar un adeg. Bu’n ganolbwynt.
‘Newid ddaeth o rod i rod’, ac mae’r waliau gwyn yn dal i sefyll yn gadarn.