Clark’s Pies
Hear the thrumming.
It’s in the walls of the buildings you pass, it’s in the buzzing of the street lights, it’s in the steady rhythm of your marching feet as you walk.
Grangetown is alive with music.
The echoes of jangling strings grow louder as you round the corner and see before you, settled just outside the famous Clark’s Pies, a street party is in full swing.
On the corner of Paget street where Bromsgrove street sniffs it, pies can be smelt from miles around… even as far down as the Marl! Goodness would the doggies wish they had a bite of a Clarpie!
And the smell of baking wafts as the people dance. If you look closely you can see a fine layer of flour swirling like a half invisible snow, as a lady stands at the centre with music bursting from all the instruments she carries.
This is Miss Violet Isitt, drumming and tooting and unleashing a flurry of sound, as all the neighbours take to the streets to dance to the happy melodies that fill your heart and make your toes tap along.
When my daughter was born there was a real sense of community - our neighbours turned up on our doorstep with food which was so lovely.
Out of nowhere the music swells, as guitars, mandolins, banjos pick up the refrain from all around you, as a group of seemingly separate people all start playing together, their instruments appearing as if by magic.
You see seven children, noses pressed up from the inside of the shop glass, surrounded by pies, faces covered in flour and butter, but their eyes are hungry for something more… The pounding of the feet on the pavement outside and the waving hands, the smiling cheers and delighted faces.
Then the faces turn and excited whispers run through the dancing crowd “Hilda is here!” as a woman strides into view followed by a troupe of accordions.
The seven small faces, no longer able to contain themselves, let out whoops and cheers and the children run from the shop to join the festivities.
And you see the party last long into the night, rounds of pies passed from hand to hand, Clark’s Tashes worn proudly, musicians swapping tunes and ditties, people laughing and dancing and singing to old favourites.
Nothing lasts forever
The image slowly fades before your eyes, but somehow the music remains.
It’s in the walls of the buildings you pass, it’s in the buzzing of the street lights, it’s in the steady rhythm of your marching feet as you walk.
Grangetown is alive with music.
Clark's Pies
Clywch y curiadau isel.
Mae ym muriau'r adeiladau y byddwch yn mynd heibio, mae yng nghanol bwrlwm y goleuadau stryd, mae yn rhythm cyson eich traed wrth i chi gerdded.
Mae Grangetown yn fyw gyda cherddoriaeth.
Mae adleisiau llinynnau’n tincial yn tyfu'n uwch wrth i chi fynd rownd y gornel a gweld parti stryd ar ei anterth o'ch blaen, ychydig y tu allan i'r Clark’s Pies enwog.
Ar gornel stryd Paget, lle mae stryd Bromsgrove yn ei sniffian, mae modd arogli pasteiod o bell… hyd yn oed cyn belled i lawr â’r Marl! Brensiach buasai’r cŵn yn hoffi cael tamaid o Clarpie!
Ac arogl pobi wrth i'r bobl ddawnsio. Os edrychwch yn ofalus fe welwch haenen fân o flawd yn chwyrlïo fel eira hanner anweledig, wrth i ddynes sefyll yn y canol gyda cherddoriaeth yn byrlymu o'r holl offerynnau mae hi'n eu cario.
Dyma Miss Violet Isitt, yn drymio, yn canu ac yn rhyddhau llu o sain, wrth i'r cymdogion i gyd fynd ar y strydoedd i ddawnsio i'r alawon hapus sy'n llenwi'ch calon ac yn gwneud i'ch bysedd traed dapio gyda’r gerddoriaeth.
Pan gafodd fy merch ei geni roedd yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned - ymddangosodd ein cymdogion ar garreg ein drws gyda bwyd a oedd mor hyfryd.
Mae’r gerddoriaeth yn chwyddo’n ddisymwth, wrth i gitarau, mandolinau a banjos godi’r gytgan o’ch cwmpas, wrth i grŵp o bobl sy’n ymddangos ar wahân i gyd ddechrau chwarae gyda’i gilydd, gyda’u hofferynnau’n ymddangos fel pe baent yn cael eu chwarae gan hud a lledrith.
Rydych chi'n gweld saith o blant, eu trwynau wedi'u gwasgu i fyny ar y gwydr o'r tu mewn i’r siop, wedi'u hamgylchynu gan basteiod, eu hwynebau wedi'u gorchuddio â blawd a menyn, ond mae eu llygaid yn awchu am rywbeth mwy… y traed yn curo ar y palmant y tu allan a'r dwylo'n chwifio, yr holl floeddio â gwenau a'r wynebau wrth eu bodd.
Yna, mae'r wynebau'n troi ac mae sibrydion cyffrous yn rhedeg trwy'r dorf sy'n dawnsio “Mae Hilda yma!” wrth i fenyw gamu i'r golwg ac yna grŵp o acordionau.
Mae'r saith wyneb bach, nad ydyn nhw bellach yn gallu ymatal eu hunain, yn bloeddio wrth i’r plant redeg o'r siop i ymuno â'r dathliadau.
Ac fe welwch chi’r parti’n parhau hyd yr hwyr, a’r pasteiod yn cael eu pasio o law i law, yn gwisgo ‘Tash’ Clark yn falch ar eu hwynebau, cerddorion yn cyfnewid tonau a chaneuon, pobl yn chwerthin ac yn dawnsio ac yn canu hen ffefrynnau.
Does dim byd yn para byth
Mae’r ddelwed yn pylu’n araf o flaen eich llygaid, ond erys y gerddoriaeth.
Mae yn waliau’r adeiladau wrth i chi gerdded heibio, yn sain y goleuadau stryd, yn rhythmau parod eich traed wrth i chi gerdded.
Mae Grangetown yn fwrlwm o gerddoriaeth.