The Old library
On Redlaver Street, where time stands still,
An old library, its charm a thrill.
Opened in nineteen hundred and one,
Its shelves held secrets of a world long gone.
Dusty books whispered stories of old,
Bound in leather, inked in threads of gold.
By candlelight, the words seemed to glow,
In corners where the years no longer flow.
And deep within, beneath a lock so fine,
A golden key once waited, with tales entwined.
Its shimmer hid beneath forgotten books
Buried under pages from passing looks
They said the key could open any door,
Bringing magic to Grangetown once more
Sharing from around the globe tales to be told
Brand new stories they’d soon unfold
This place has changed, no longer a nook,
for reading a really good book,
But let its past meet you and beguile,
For this old library will stand here yet for a while.
Yr Hen Lyfrgell
Ar Stryd yng Nghaerdydd, lle saif amser yn llonydd,
Mae swyn hen lyfrgell yn swatio ynghudd.
Agorwyd ym mil naw cant ac un,
Yn drysorfa o gyfrinachau o bob lliw a llun.
Sibrydion hen lyfrau sy’n tywallt pob gair,
Rhwng cloriau o ledr mewn edafedd aur.
Yng ngolau’r gannwyll daw’r geiriau’n fyw,
Mewn corneli lle na chlywir siw na miw.
Rhwng rhesi o silffoedd clo cywrain, cudd,
Ac allwedd euraidd i straeon y dydd.
Disgleiria dan lyfrau sy’n angof o hyd
Dan ddalennau sy’ ‘mhell o lygaid y byd
Gallai’r allwedd agor pob drws a chlo,
Gan ledu ei hud i Grangetown ‘to
A rhannu chwedlau o bedwar ban byd
A straeon newydd i’w hadrodd o hyd
Â’r llecyn hwn? Daeth newid i’w hynt.
A nawr nid yw’n lle i bori trwy brint,
Ond bydded i’w hanes barhau i hudo,
Cans yma a saif am gryn amser eto.