Clicio chwarae yn y porwr
CROESO I'R LLWYBR SAIN
Ymunwch â ni ar gyfer Sŵn Darganfod: Rhifau ym Myd Natur. Pecyn o anturiaethau a llwybr sain i’ch tywys chi ar daith trwy harddwch y byd awyr agored.
Heddiw, nid dim ond cerdded fyddwn ni; rydyn ni’n mynd i glustfeinio. Byddwn ni’n dangos ble mae gan bob siâp, bob cromlin, a bob rhif, bwrpas. Mae natur wastod wedi bod yn llawn cyfrinachau - patrymau, rhythmau, siapiau, a rhifau - wedi'u plethu i mewn i bopeth o'n cwmpas. Heddiw, bydd cyfle i chi gael cipolwg ar yr iaith gudd honno, ac efallai y byddwch chi’n teimlo ychydig mwy o gysylltiad at y byd o dan eich traed ac uwch eich pen.
Ymunwch â ni wrth i ni neidio i mewn i’r byd gwyllt ac efallai y dewch chi o hyd i bethau nad oeddech chi'n gwybod eu bod yn bodoli, neu bethau hollol annisgwyl. Felly, gadewch i ni gamu ymlaen a darganfod rhifau ym myd natur.