The Little Drop in the Ocean
Y diferyn bach yn y môr
Chapter 3 Pennod 3
Click to play Cliciwch i Chwarae
Then make your way to Gallery 57 for Chapter 2 (Unit 9, Chartist Tower, Upper Dock St, Newport NP20 1DX)
I don’t quite know how to start, as this tale is quite an adventure! I guess I will start with telling you the things I know… It has a main character, a huge amount of courage and a bit of mystery along the way. My name is Molly Strong. I’m from a place called Mainland. A place that follows rules and where the people live their lives exactly as they are told. I have lived here all my life, many generations have been born and raised here.
From miles and miles around the people talked of ‘the Drop’. A mysterious place that no maps would show and no compass could direct you to. We learnt about it in school, had tests on the history of it. Many years ago, way before I was born, Mainland had quite a shock, that’s when tales of the drop came about.
Now is the exciting time where I can introduce you to our main character, she’s called Sadie. Before I carry on, I think it best I tell you a little more about Sadie. That way you will care for her in every way and this will make the adventure well worth the telling.
Sadie was 8, she was the shortest in her class and extremely bright too she always wore a stripy jumper and dungarees, her father had to buy another pair just so he could wash them from time to time without her knowing. Sadie could be found playing in the garden with her home-made science experiments, making mud cakes outside the school or climbing to the top of the trees in the forest of glum. She was an adventurous little soul who wanted to run and see the world. The problem was she couldn’t go far on mainland. Mainland was very beautiful but very small.
Task:
Sadie has lots of different hobbies, can you think of your favourite things to do? As you make your way to the next stop, try acting them out for your group and see if they can guess what they are…
A dweud y gwir, dydw i ddim yn gwybod sut i ddechrau, gan fod y stori hon yn antur a hanner!
Fwy na thebyg byddai’n well i fi dechrau trwy sôn am y pethau rwy'n eu gwybod... Mae yna brif gymeriad, dewrder anhygoel ac ychydig o ddirgelwch ar hyd y ffordd. Fy enw i yw Moli Gadarn. Rwy'n dod o le o'r enw Prifdir. Lle sy'n dilyn rheolau a lle mae'r bobl yn byw eu bywydau yn union fel maen nhw i fod i. Rydw i wedi byw yma erioed, ac mae sawl cenhedlaeth wedi cael eu geni a'u magu yma.
Am filltiroedd a milltiroedd, roedd y bobl yn sôn am 'y Gwymp’. Lle dirgel na fyddai’n ymddangos ar unrhyw fapiau e lle na allai unrhyw gwmpawd eich cyfeirio ato. Fe ddysgon ni amdano yn yr ysgol, a chael profion am ei hanes. Flynyddoedd lawer yn ôl, ymhell cyn i fi gael fy ngeni, cafodd Prifdir dipyn o sioc, a dyna pryd y dechreuodd y straeon am y Gwymp.
Nawr, mae’n amser cyffrous oherwydd dw i’n cael eich cyflwyno chi i'n prif gymeriad, sef Sadie. Cyn i fi fynd ymhellach, rwy'n meddwl ei bod hi’n well i fi ddweud ychydig yn fwy wrthoch chi am Sadie. Wedyn, fe fyddwch chi’n poeni amdani ym mhob ffordd a bydd hyn yn gwneud yr antur yn werth ei hadrodd.
Roedd Sadie yn 8 mlwydd oed. Hi oedd y byrraf yn ei dosbarth ac roedd hi’n alluog dros ben hefyd, ac yn gwisgo siwmper streipiog a dyngarîs bob tro. Roedd yn rhaid i'w thad brynu pâr arall er mwyn iddo allu eu golchi nhw bob nawr ac yn y man heb iddi wybod. Roedd Sadie wastod yn chwarae yn yr ardd gydag arbrofion gwyddoniaeth yr oedd hi wedi’u dyfeisio, yn gwneud cacennau mwd tu allan i'r ysgol neu’n dringo i ben y coed yng nghoedwig Gofidiau. Roedd hi’n un fach anturus iawn a oedd eisiau rhedeg i bobman a gweld y byd. Y broblem oedd nad oedd hi'n gallu mynd ymhell ar Prifdir. Roedd Prifdir yn hardd iawn ond yn fach iawn.
Tasg:
Mae gan Sadie lawer o hobïau gwahanol, allwch chi feddwl am y pethau rydych chi wrth eich bodd yn eu gwneud? Wrth i chi ffeindio’ch ffordd i’r lle nesaf, beth am eu disgrifio i’ch grŵp trwy actio, i weld os ydyn nhw’n gallu dyfalu beth ydyn nhw?