The Little Drop in the Ocean
Y diferyn bach yn y môr
Chapter 2 Pennod 2
Click play below to listen to Chapter 2 Cliciwch chwarae isod i wrando ar Bennod 2
Then make your way to Waterstones (159 Commercial St, Newport NP20 1JQ)
Chapter Two
One early morning just before school Sadie decided she would head down the to library where she met Miss Clay. Miss Clay was the librarian, cook and headmistress of the school. She was always over run with work and didn’t have much time for anything
else. She loved books.
“They are the window to the world!”
She would say in a gleeful and knowing tone, before nipping quickly into
“No No Snub put the protractor down!” in quite a stern manner. All in all she was the greatest teacher around.
Sadie wanted only one book. A book she couldn’t quite reach…
“Ummm… Miss Clay can you please fetch me a book? I’m too short again…”
Miss Clay looked at her in that wonderful way which suggested ‘why yes of course’ and ‘oh dear my love I really ought to get us a ladder’
“Yes here you go, oooo a book on accounting for beginners. What a treat!” “No no Miss Clay not that one…a little further over if you please.” “This one my dear? The whole history of Mainland in the years 1382…” “No not that one. Please can I have the book on Submarines?” Miss Clay looked down at Sadie from high up on her ladder, almost looming over her “Submarines….submarines, why on mainland would you want to know about Submarines.” “Oh I’m just so interested in how they work, that’s all Miss Clay.” Miss Clay got the red book down, its pages all pristine and un-crinkled…
“Here you go my dear, look after it now won’t you, if you need anything else just you let me know.” Miss Clay then got back to her work, humming to herself whilst sipping a cup of tea.
Task:
Who knows when you might need to stretch up to reach a book on a shelf? Try reaching up now as tall as you can go… Who can stretch the furthest?
Pennod Dau
Yn gynnar un bore, cyn mynd i’r ysgol, penderfynodd Sadie fynd i’r llyfrgell, lle cyfarfu â Miss Clay. Miss Clay oedd llyfrgellydd, cogydd a phrifathrawes yr ysgol. Roedd hi wastod lan nes ei chlustiau mewn gwaith a doedd ganddi ddim llawer o amser ar gyfer unrhyw beth arall. Roedd hi'n caru llyfrau.
"Llyfrau yw'r ffenest ar y byd!"
Byddai'n dweud mewn llais llawen a gwybodus, cyn dweud yn gyflym "Na Na Snyb, rho’r onglydd i lawr!" mewn ffordd ddigon llym. Hi oedd yr athrawes orau.
Dim ond un llyfr yr oedd Sadie ei eisiau. Llyfr na allai ei gyrraedd yn iawn...
"Ymmm... Miss Clay, allwch chi estyn llyfr i fi plîs? Rwy'n rhy fyr eto..."
Edrychodd Miss Clay arni yn y ffordd wych honno a oedd yn dweud 'wrth gwrs' ac
'o diar, cariad, rhaid i fi nôl ysgol'. "Dyma ti, www llyfr am gyfrifon i ddechreuwyr. Bendigedig!"
"Na, na Miss Clay, nid hwnna ... ychydig ymhellach draw os gwelwch yn dda."
"Hwn, bach? Stori gyfan Prifdir yn y blynyddoedd 1382..."
"Na, nid hwnna. Plîs ga’ i’r llyfr am Longau Tanfor?"
Edrychodd Miss Clay i lawr ar Sadie o i fyny fry ar ei hysgol, yn hongian drosti braidd... "Llongau tanfor ... llongau tanfor, pam ar brifdir fyddet ti eisiau gwybod am longau tanfor."
"O mae gen i gymaint o ddiddordeb yn y ffordd maen nhw'n gweithio, dyna i gyd Miss Clay." Tynnodd Miss Clay y llyfr coch i lawr, ei dudalennau’n berffaith lân....
"Dyma ti, bach, gofala amdano nawr, ac oes wyt ti eisiau unrhyw beth arall, cofia ddweud." Yna aeth Miss Clay yn ôl at ei gwaith, gan ganu iddi hi ei hun wrth sipian paned o de.
Tasg:
Pwy a ŵyr pryd y gallech chi fod eisiau estyn i fyny i gyrraedd llyfr ar silff? Ceisiwch estyn i fyny nawr mor uchel ag y gallwch chi... Pwy sy’n gallu estyn uchaf?